Wales Officer (Priority Plants Project)

Botanical Society of Britain & Ireland (BSBI)

Wales (home-based)
£35,708 pa pro rata and a 4% pension contribution
Full Time • Fixed Term
Closing on Mon, 23rd Feb 2026

EcologyConservation & Wildlife


Could you help us support and grow the community of botanists in Wales?

About the role

An exciting opportunity has arisen to become the Wales Officer leading our Priority Plants Project in Wales. This project is funded by the Nature Networks Programme. It is being delivered by the Heritage Fund, on behalf of the Welsh Government.

The post holder will plan and deliver a three-year project which includes the planning of surveys, training botanical recorders in survey methodology, organising training/recording events, and the coordination, support and undertaking of surveys, as well as the day-to-day management of the project and reporting to funders. They will also support volunteers in Wales by facilitating other training (for example in plant identification and data management) and encouraging volunteer succession planning, skills development and capacity building.

We are looking for an experienced botanist with strong coordination and communication skills. The post holder will be responsible for managing all aspects of the project, including planning, reporting and evaluation; working with BSBI botanical recorders to survey and assess individual plant special features on SSSIs in Wales in order to improve evidence of their condition and determine future management; developing partnerships with a wide range of organisations; and working closely with the botanical community in Wales. This includes collaborating with BSBI Vice-County Recorders, identifying training and recording needs, and ensuring good data flow to the BSBI’s Distribution Database (DDb).

This is an exciting and varied position for someone with a passion for wild plants, strong project management skills, and the ability to work collaboratively with partners, volunteers and colleagues across the conservation and recording community. The work you do will make a real contribution to the understanding and protection of Wales’ plants, and help build a stronger, more connected botanical community.

If you have any questions about this role please contact [email protected]

About the organisations

The Botanical Society of Britain and Ireland (BSBI) is the leading charitable organisation promoting the enjoyment, study and conservation of wild plants in Britain and Ireland. We aim to build a diverse community of skilled and enthused botanists, provide data and science to help address biodiversity loss and climate change and disseminate information to drive a passion for plants. To do this we provide opportunities for involvement for all through a range of participation projects, surveys, indoor and outdoor events, training opportunities and the production of books and other resources. Our Distribution Database (DDb) holds over 50 million plant records, making it one of the world’s largest biological recording databases and in March 2023 we published the third Plant Atlas, mapping changes in the distribution of British and Irish flora. Our latest organisational Strategy describes our future plans.

The aim of the Nature Networks Fund is to improve the resilience of Wales’ network of protected land and marine sites. It is a key element of the delivery of the Welsh Government’s wider Nature Networks Programme, supporting its nature recovery targets such as ‘30by30’.



Allech chi ein helpu ni i gefnogi a thyfu cymuned y botanegwyr yng Nghymru?

Am y swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ddod yn Swyddog Cymru yn arwain ein Prosiect Planhigion Blaenoriaeth yng Nghymru. Ariennir y prosiect yma gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae'n cael ei ddarparu gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru. Bydd deiliad y swydd yn cynllunio ac yn cyflwyno prosiect tair blynedd sy'n cynnwys cynllunio arolygon, hyfforddi cofnodwyr botanegol mewn methodoleg arolygon, trefnu digwyddiadau hyfforddi / cofnodi, a chydlynu, cefnogi a chynnal arolygon, yn ogystal â rheoli'r prosiect o ddydd i ddydd ac adrodd i gyllidwyr. Bydd hefyd yn cefnogi gwirfoddolwyr yng Nghymru drwy hwyluso hyfforddiant arall (er enghraifft, mewn adnabod planhigion a rheoli data) ac annog cynllunio olyniaeth gwirfoddolwyr, datblygu sgiliau a meithrin capasiti.

Rydyn ni’n chwilio am fotanegydd profiadol gyda sgiliau cydlynu a chyfathrebu cadarn. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli pob agwedd ar y prosiect, gan gynnwys cynllunio, adrodd a gwerthuso; gweithio gyda chofnodwyr botanegol BSBI i arolygu ac asesu nodweddion arbennig planhigion unigol ar SoDdGA yng Nghymru er mwyn gwella’r dystiolaeth o'u cyflwr a phenderfynu ar reolaeth yn y dyfodol; datblygu partneriaethau gydag ystod eang o sefydliadau; a gweithio'n agos gyda'r gymuned fotanegol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cydweithredu ag Is-Gofnodwyr Sirol BSBI, nodi anghenion hyfforddi a chofnodi, a sicrhau llif data da i Gronfa Ddata Dosbarthiad (DDb) BSBI.

Mae hon yn swydd gyffrous ac amrywiol i rywun sydd ag angerdd dros blanhigion gwyllt, sgiliau rheoli prosiectau cadarn, a'r gallu i gydweithredu â phartneriaid, gwirfoddolwyr a chydweithwyr ar draws y gymuned cadwraeth a chofnodi. Bydd y gwaith fyddwch chi’n ei gwblhau yn gwneud cyfraniad real at ddealltwriaeth o blanhigion Cymru a’u gwarchod, ac yn helpu i greu cymuned fotanegol gryfach a mwy cysylltiedig.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y swydd yma, cysylltwch â [email protected]

Am y sefydliadau

Cymdeithas Fotanegol Prydain ac Iwerddon (BSBI) yw'r prif sefydliad elusennol sy'n hyrwyddo mwynhad, astudiaeth a chadwraeth planhigion gwyllt ym Mhrydain ac Iwerddon. Ein nod ni yw creu cymuned amrywiol o fotanegwyr medrus a brwdfrydig, darparu data a gwyddoniaeth i helpu i fynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth a newid hinsawdd a dosbarthu gwybodaeth i sbarduno angerdd dros blanhigion. I wneud hyn rydyn ni’n darparu cyfleoedd i bawb gymryd rhan drwy amrywiaeth o brosiectau cyfranogiad, arolygon, digwyddiadau dan do ac awyr agored, cyfleoedd hyfforddi a chynhyrchu llyfrau ac adnoddau eraill. Mae ein Cronfa Ddata Dosbarthiad (DDb) yn cynnwys mwy na 50 miliwn o gofnodion am blanhigion, gan ei gwneud yn un o gronfeydd data cofnodi biolegol mwyaf y byd ac, ym mis Mawrth 2023, cyhoeddwyd y trydydd Atlas Planhigion, gan fapio newidiadau yn nosbarthiad fflora Prydain ac Iwerddon. Mae ein Strategaeth sefydliadol ddiweddaraf yn disgrifio ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Nod y Gronfa Rhwydweithiau Natur yw gwella gwydnwch rhwydwaith Cymru o safleoedd tir a morol gwarchodedig. Mae'n elfen allweddol o gyflawni Rhaglen Rhwydweithiau Natur ehangach Llywodraeth Cymru, gan gefnogi ei thargedau adferiad byd natur fel '30 erbyn 30'.

Find out more & apply Save Share

About Botanical Society of Britain and Ireland (BSBI)

The BSBI is for everyone who cares about the wild plants of Britain and Ireland. Since 1836, we've been promoting the study, understanding and enjoyment of British and Irish botany. We support all botanists - beginner or expert, amateur or professional - as they identify, record and map what grows where: our data and knowledge underpin evidence-based conservation of the British and Irish flora.

Visit website View full profile More ecology jobs