Specialist Advisor - Ecology
Pembrokeshire County Council
Specialist Advisor (Ecologist)
This is a full time (37hours per week) fixed term (24 months) position.
We are seeking to appoint a focused, dynamic Planning Ecologist with excellent communications skills to support the delivery of development that enhances the built and natural environment in Pembrokeshire.
Grade 8
Qualifications:
You will hold a degree in Ecology or a related subject with a significant period of relevant experience of work of a similar nature. Knowledge of applicable legislation such as the Habitats Regulations and planning legislation and guidance is also essential. You will be an articulate and effective communicator, self-motivated, organised and highly computer literate, including using GIS and databases.
The post holder will provide specialist advice and information on ecology with regard to the land use planning process and other aspects of biodiversity across the Authority but particularly within Planning, Highways and Infrastructure and projects, and to wider external stakeholders ensuring compliance with related legislation and policy. The post holder will also provide ecological advice within the National Park’s planning application and pre-application advice processes.
For further information please contact: Rebecca Blackman (Corporate Biodiversity Officer & Conservation Team Leader) on 01437 776376 or email [email protected].
CYNGHORYDD ARBENIGOL (ECOLEGYDD)
Mae hon yn swydd amser llawn (37 awr yr wythnos) am gyfnod penodol (24 mis).
Rydym am benodi ecolegydd cynllunio dynamig, craff sydd â sgiliau cyfathrebu rhagorol i gynorthwyo’r gwaith o gyflwyno datblygiad sy’n gwella’r amgylchedd adeiledig a naturiol yn Sir Benfro.
GRADD 8
CYMWYSTERAU:
Bydd gennych radd mewn Ecoleg neu bwnc cysylltiedig, gyda chyfnod sylweddol o brofiad gwaith perthnasol mewn maes tebyg. Mae gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol megis y Rheoliadau Cynefinoedd a deddfwriaeth a chanllawiau cynllunio hefyd yn hanfodol. Byddwch yn gyfathrebwr huawdl ac effeithiol, yn hunan-gymhellol, yn drefnus ac yn hyddysg mewn cyfrifiadura, gan gynnwys defnyddio systemau gwybodaeth ddaearyddol a chronfeydd data.
Bydd deiliad y swydd yn darparu cyngor a gwybodaeth arbenigol ar ecoleg mewn perthynas â’r broses cynllunio defnydd tir, ac agweddau eraill ar fioamrywiaeth ar draws yr awdurdod, ond yn enwedig o fewn meysydd cynllunio, priffyrdd a seilwaith a phrosiectau, ac i randdeiliaid allanol ehangach, gan sicrhau cydymffurfedd â deddfwriaeth a pholisi cysylltiedig. Bydd deiliad y swydd hefyd yn darparu cyngor ecolegol ym mhrosesau ceisiadau cynllunio a chyngor cyn ymgeisio y Parc Cenedlaethol.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Rebecca Blackman (Swyddog Bioamrywiaeth Corfforaethol ac Arweinydd Tîm Cadwraeth) ar 01437 776376 neu anfonwch neges e-bost i [email protected].