Species Protection Warden

RSPB Burton Mere Wetlands

Point of Ayr, Flintshire
Voluntary
Part Time
Closing on Mon, 1st Dec 2025

Conservation & WildlifeEnvironmental Education


Description

Species Protection Volunteer Winter Warden, progressing to Spring/Summer Beach Warden

We need your help protecting vulnerable species of wading and beach-nesting birds on the Dee Estuary. These birds, including Little Terns, Oystercatchers and Curlew, are finding it harder than ever to find safe places to roost in the winter and raise their families in the spring. This is due to a rise in visitors to coastal places, loss of habitat, increased threats from predators, and climate change.

You have the chance to be part of a dedicated group of RSPB staff and volunteers, carrying out vital conservation work to help protect these vulnerable species at Point of Ayr.

We have had lots of success protecting these birds in recent years, but they are becoming more vulnerable, due to increased threats from predators. So, we need your help more than ever!

The Role

We are looking for dedicated volunteers to help warden the beach at Point of Ayr. You will also be working closely with our existing team of experienced volunteers and RSPB staff.

We are looking for Winter Wardens to cover weekend shifts from September 2025 – March 2026. These shifts are only on high tide weekends for a few hours.

You can commit to as much or as little time as you are able to, we can be flexible around your other commitments. Even a couple of hours over a weekend will be extremely helpful.

If you enjoy the Winter Warden role, there are opportunities to continue volunteering over the summer as a Beach Warden.

Travel will be required to site. A proportion of travel expenses can be reimbursed.

What will you be doing?

  • Protecting important high-tide winter roost sites by patrolling the Point of Ayr site and preventing disturbance to the birds.
  • Engaging with beach users and residents in the local communities about the threats these birds face and what everyone can do to protect them.
  • Practical activities including fencing work and equipment maintenance.
  • If you continue the role into the spring and summer, you will be protecting Little Tern nesting sites during the breeding season.

Full training will be provided on all aspects of the role.

What’s in it for you?

  • As a volunteer Winter Warden, you will have a chance to work as part of a team and meet new, like-minded people whilst gaining hands on experience of species protection.
  • If you enjoy being outdoors, then this role will be perfect for you.
  • This role will involve a reasonable amount of physical activity, so it will help maintain your physical fitness as well as your mental health and wellbeing.
  • You will be making a genuine contribution to nature conservation, and you will find it rewarding to protect your local wildlife.
  • We are a friendly and supportive team, so you can make new friends and connections.

What skills/experience do you need?

  • You will need to be able to undertake regular shifts which will be booked via a team rota. This may require walking long distances, often along a beach. You should also be comfortable being outdoors in all weather conditions.
  • An enthusiasm for coastal wildlife would be beneficial, but full training will be given. This will allow you to talk knowledgably to beach users about the birds and conservation work.
  • Confident in talking to members of the public about the threats these birds face and what everyone can do to protect them.
  • Willingness to learn and assist with the various activities that the RSPB undertakes to protect beach-nesting birds.
  • Flexibility to volunteer during weekends in the winter months (whilst fitting in with your availability). If you choose to continue in this role into the summer, there will be weekday shifts available too.
  • Ability to work independently or as part of a small team.
  • Locations are remote so access to own transport is desirable. Public transport or cycling may be options depending on your location.

This is your chance to work in one of Wales’s most beautiful locations and directly contribute to the conservation of its iconic species.

If this sounds like the role for you, please click ‘apply’ 

If you think that the Winter Warden role is not for you, but you are still interested in getting involved, or have other skills that you think might be useful to the project, please get in touch.


Warden y Gaeaf Gwirfoddol Gwarchod Rhywogaethau (ac yna fel Warden y Traeth yn y Gwanwyn/Haf)

Mae angen eich help arnom i warchod rhywogaethau adar hirgoes sy’n nythu ar y traeth ar Aber Dyfrdwy ac sy’n agored i niwed. Mae'r adar hyn, gan gynnwys Môr-wenoliaid Bach, Piod y Môr a’r Gylfinir, yn ei chael hi'n anos nag erioed i ddod o hyd i lefydd diogel i glwydo yn y gaeaf a magu eu teuluoedd yn y gwanwyn. Mae hyn yn deillio o’r cynnydd yn y niferoedd sy’n ymweld â llefydd ar hyd yr arfordir, bod cynefin yn cael ei golli, a bod mwy o fygythiadau gan ysglyfaethwyr, a newid yn yr hinsawdd. Mae gennych gyfle i fod yn rhan o grŵp ymroddedig o staff a gwirfoddolwyr yr RSPB, sy'n gwneud gwaith cadwraeth hanfodol i helpu i ddiogelu'r rhywogaethau hyn sy’n agored i niwed yn ardal y Parlwr Du. Rydyn ni wedi cael llawer o lwyddiant i warchod yr adar hyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond maen nhw'n dod yn fwy agored i niwed, oherwydd mwy o fygythiadau gan ysglyfaethwyr. Felly, mae angen eich help arnom yn fwy nag erioed!

Y Rôl

Rydyn ni’n chwilio am wirfoddolwyr ymroddedig i helpu warden y traeth yn y Parlwr Du. Byddwch hefyd yn gweithio'n agos gyda'n tîm presennol o wirfoddolwyr profiadol a staff yr RSPB. Rydyn ni’n chwilio am Wardeniaid y Gaeaf i weithio shifftiau penwythnos o fis Medi 2025 hyd at fis Mawrth 2026. Dim ond ar benwythnosau llanw uchel am ychydig oriau y mae'r shifftiau hyn. Gallwch ymrwymo i gymaint neu gyn lleied o amser ag y gallwch, gallwn fod yn hyblyg o amgylch eich ymrwymiadau eraill. Bydd hyd yn oed awr neu ddwy dros benwythnos yn help mawr. Os ydych chi'n mwynhau rôl Warden y Gaeaf, mae cyfleoedd i barhau i wirfoddoli dros yr haf fel Warden y Traeth. Bydd angen teithio i'r safle. Gellir ad-dalu cyfran o gostau teithio.

Beth fyddwch chi'n ei wneud?

  • Gwarchod safleoedd clwydo pwysig ar lanw uchel yn y gaeaf drwy gadw golwg ar safle’r Parlwr Du ac atal unrhyw aflonyddu ar yr adar.
  • Ymgysylltu â defnyddwyr y traeth a thrigolion yn y cymunedau lleol am y bygythiadau y mae'r adar hyn yn eu hwynebu a'r hyn y gall pawb ei wneud i'w gwarchod.
  • Gweithgareddau ymarferol gan gynnwys gwaith ffensio a chynnal a chadw offer.
  • Os byddwch chi'n parhau i weithio yn y gwanwyn a'r haf, byddwch chi'n gwarchod safleoedd nythu Môr-wenoliaid Bach yn ystod y tymor bridio.

Darperir hyfforddiant llawn ar bob agwedd ar y rôl.

Pa fudd a gewch chi o’r gwaith?

  • Fel Warden y Gaeaf gwirfoddol, cewch gyfle i weithio fel rhan o dîm a chyfarfod pobl newydd, o'r un anian wrth gael profiad ymarferol o warchod rhywogaethau.
  • Os ydych chi'n mwynhau bod yn yr awyr agored, yna bydd y rôl hon yn berffaith i chi.
  • Bydd y rôl hon yn cynnwys lefel resymol o weithgarwch corfforol, felly bydd yn helpu i’ch cadw’n gorfforol heini yn ogystal â'ch iechyd meddwl a'ch llesiant.
  • Byddwch yn gwneud cyfraniad gwirioneddol i gadwraeth natur, a chewch bleser wrth warchod eich bywyd gwyllt lleol.
  • Rydym yn dîm cyfeillgar a chefnogol, felly gallwch chi wneud ffrindiau a chysylltiadau newydd.

Pa sgiliau/profiad sydd eu hangen arnoch?

  • Bydd angen i chi allu gweithio shifftiau rheolaidd a fydd yn cael eu trefnu trwy rota tîm. Efallai y bydd angen cerdded yn bell, yn aml ar hyd traeth. Dylech hefyd fod yn fodlon bod allan yn yr awyr agored ym mhob tywydd.
  • Byddai brwdfrydedd dros fywyd gwyllt arfordirol o fudd, ond bydd hyfforddiant llawn yn cael ei gynnig. Bydd hyn yn eich galluogi i siarad yn wybodus â defnyddwyr y traeth am yr adar a'r gwaith cadwraeth.
  • Dylech fod yn hyderus wrth siarad ag aelodau o'r cyhoedd am y bygythiadau y mae'r adar hyn yn eu hwynebu a'r hyn y gall pawb ei wneud i'w gwarchod.
  • Parodrwydd i ddysgu a chynorthwyo gyda'r gwahanol weithgareddau y mae'r RSPB yn eu cymryd i warchod adar sy'n nythu'r traeth.
  • Hyblygrwydd i wirfoddoli yn ystod penwythnosau yn ystod misoedd y gaeaf (gan gyd-fynd â'r adegau pan ydych chi ar gael). Os byddwch chi'n dewis parhau i wneud y rôl hon yn yr haf, bydd shifftiau yn ystod yr wythnos ar gael hefyd.
  • Y gallu i weithio'n annibynnol neu fel rhan o dîm bach.
  • Mae lleoliadau'n anghysbell felly mae gallu defnyddio eich cludiant eich hun yn ddymunol. Gall cludiant cyhoeddus neu feicio fod yn opsiynau yn dibynnu ar eich lleoliad.

Dyma'ch cyfle i weithio yn un o leoliadau harddaf Cymru a chyfrannu'n uniongyrchol at gadwraeth ei rhywogaethau eiconig.

Os yw’r swydd hon yn apelio i chi, cliciwch 'ymgeisio' yn y gornel dde.

Os ydych chi'n meddwl nad yw rôl Warden y Gaeaf ar eich cyfer chi, ond bod gennych ddiddordeb o hyd mewn cymryd rhan, neu os oes gennych chi sgiliau eraill yr ydych chi'n meddwl a allai fod yn ddefnyddiol i'r prosiect, cysylltwch â ni.

Find out more & apply Save Share

About RSPB

The RSPB is a charity for the conservation of birds and nature. We bring people together who love birds and other wildlife, and who want to take action to restore the health and diversity of the natural world. We carry out conservation on a large scale, protect and restore habitats, and save species from extinction. We’re living in a nature and climate emergency, and we won’t stop whilst the threats persist. We believe our work makes a real difference to the world we live in. It takes a great team to save nature and we need a wide range of skills to make it happen. As an RSPB employee, you will be helping to save nature every time you come to work. There’s never been a more important time to protect our wildlife and wild places, so we want to make sure you feel rewarded for everything you help us to achieve. 

Visit website More jobs with RSPB More conservation & wildlife volunteering